English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

O'r A477, mae arwyddion brown ar gyfer Cartref Dylan Thomas yn eich arwain ar hyd ffyrdd gwledig hardd i Dalacharn. Mae Talacharn ar yr arfordir, mewn man hyfryd wrth aber afon Taf sy'n llifo i Fae Caerfyrddin. Efallai mai'r peth enwocaf am Dalacharn yw'r cysylltiad â'r bardd Dylan Thomas. Bu Dylan yn byw yn Nhalacharn o 1949 tan ei farwolaeth yn 1953. Disgrifiodd y dref unwaith fel "a timeless, mild, beguiling island of a town”.

Mae'r rhan fwyaf yn credu mai Talacharn yw'r ysbrydoliaeth ar gyfer tref ddychmygol "Llaregub" yng ngwaith eiconig Dylan "Under Milk Wood".

Yn fwy diweddar, Talacharn oedd prif leoliad drama lwyddiannus y BBC "Keeping Faith". Mae'n bosibl nad yw rhai o wylwyr y rhaglen yn gwybod mai cefn gwlad ac arfordir Sir Gâr sydd i'w gweld yn y gyfres. Felly gofynnom i Cath Ayres sôn mwy wrthym am y dref a'r ardal gyfagos. Mae Cath yn rhywun delfrydol i wneud hyn. Yn ogystal â bod yn un o ferched Sir Gâr, hi oedd yn chwarae rhan Lisa Connors, ffrind Faith, yn y gyfres. Gweler isod beth oedd gan Cath i ddweud wrthym.

Mae Cath yn cofio mynd i Dalacharn bob wythnos pan yn blentyn, i gael gwersi cello. Yn ddiweddarach, mae ganddi atgofion arbennig iawn o'r dyddiau a dreuliodd yn Nhalacharn wrth ffilmio 'Keeping Faith'. Hoff le'r cast i fynd am ryw ddiod bach rhwng y ffilmio oedd yr enwog Browns Hotel. Mae hanes Browns yn ymestyn nôl i 1752, a daeth y dafarn yn dipyn o ffefryn gan Dylan Thomas yn yr 1940au a'r 1950au. Roedd yn treulio cymaint o amser yno, pan oedd rhywun am ei rif ffôn, roedd yn rhoi rhif y dafarn iddyn nhw.

O'r Fferm i'r Fforc

Heddiw mae Browns yn westy boutique adnabyddus. Mae'r bwyty – Dexter's at Browns – yn denu pobl o bell ac agos. Cafodd y bwyty ei enwi ar ôl y brîd o wartheg sy'n ffurfio buches y gwesty, sy'n cael eu magu ar Fferm Llwyn gerllaw. Yma mae'r anifeiliaid yn mwynhau porfeydd gwyrddlas Sir Gâr, sy'n gwneud y cig mor arbennig. Stori fferm i'r fforc go iawn yw hon.

Dim ond un yw Browns o blith nifer o dafarndai cartrefol sy'n cynnig bwyd gwych yn Nhalacharn heddiw. Does dim rhyfedd na fu i gast a chriw 'Keeping Faith' ymweld â'r rhan fwyaf ohonynt. Rhaid yw crybwyll y Three Mariner a'r The Ferryman Deli.

Nid yn y tafarndai'n unig y mae bwyd gwych i'w ganfod yn Nhalacharn. Mae'r Owl and the Pussycat Café wedi bod yn cynnig bwyd cartref ers 2000. Yn Poon's Street Food gallwch fwynhau brecwastau traddodiadol yn y bore neu fwyd Thai gwych gyda'r nos – a'r cyfan wedi'i weini mewn awyrgylch byrlymus a chyfeillgar. Ac os am rywbeth gwahanol, mae'r siop 'sglodion leol, Castle Fish Bar, yn cynnig cocos o Fae Caerfyrddin.

Ystafell gyda Golygfa

Ceir te Cymreig traddodiadol hefyd yng Nghartref Dylan Thomas, sef y 'boathouse'. I lawer, y 'boathouse' sy'n eu denu i'r dref. Yn y fan hon roedd Dylan yn byw pan aeth i Efrog Newydd, lle bu farw'n rhy gynnar o lawer yn 1953. Nid yw'n syndod bod Dylan wedi dewis byw yn y 'boathouse'. Mae yno olygfeydd gwych ar draws aber afon Taf, ac yn sicr bu i hynny roi cryn dipyn o ysbrydoliaeth greadigol iddo. Fe âi i ysgrifennu mewn sied fechan, nid nepell o'r tŷ. Amgueddfa yw'r tŷ bellach, ac mae'n deyrnged i un o ddoniau llenyddol enwocaf Cymru.

Gyda'r wawr

Gofynnom i Cath ble oedd y lle gorau i dynnu llun yn Nhalacharn. Roedd yn ddewis anodd gan fod cynifer o olygfeydd yma, ond yn y pen draw penderfynodd ar fan lle mae castell Talacharn yn gefndir. Mae'n drawiadol wrth yr aber gyda'r adar ar lan y dŵr. Dywed Cath ei fod yn hynod drawiadol ar doriad gwawr. Nid yw'n syndod bod lleoliad mor brydferth wedi ysbrydoli artistiaid yn ogystal ag instagramwyr. Yn anad dim, William Turner, y mae ei lun dyfrlliw o Gastell Talacharn yn dangos môr gwyllt mewn man sydd fel arfer yn heddychlon.

Dilyn Ôl Troed Dylan

Bydd cerddwyr yn gyfarwydd â Thalacharn oherwydd bod Llwybr Arfordir Cymru yn mynd drwy'r dref. Mae Cath yn awgrymu mai Taith Gerdded Pen-blwydd Dylan, sydd tua 3 milltir, yw'r daith gerdded orau i ymwelwyr, yn ogystal â'r ffordd orau o fagu syched. Yn 1944, ysgrifennodd Dylan 'Poem in October' am ei daith gerdded ar ei ben-blwydd, i fryn Syr John. Mae hon yn gerdd hyfryd am ei gariad at Dalacharn ac am fynd yn hŷn.
Yng nghanol Talacharn mae'r Mâl, lle mae yna Groes Geltaidd, a dywedir bod arweinydd y Methodistiaid John Wesley wedi pregethu i bobl y dref o'r fan hon.
Mae'r enw'n adlewyrchu'r ffaith bod hen felin falu wedi bod yma ar un adeg.
Siop anrhegion hynod yw 'Choices'. Mae'n cynnig amrywiaeth o grefftau lleol a phethau cofiadwy Dylan Thomas i gofio am eich ymweliad.

Selogion Faith

Mae Cath yn credu bod 'Keeping Faith' yn denu bron cynifer o ymwelwyr i Dalacharn â Dylan Thomas y dyddiau hyn. Mae hyd yn oed llwybr selogion sy'n cysylltu lleoliadau ar draws y sir. Ymhlith y golygfeydd mwyaf trawiadol yn y gyfres mae'r rhai dros yr aber gan gynnwys ym mhennod 1 pan mae Lisa, cymeriad Cath, yn rhannu gwydraid o win gyda Faith. Mae sïon bod selogion y rhaglen yn mynd yn syth i'r tŷ lle ffilmiwyd yr olygfa hon, gan eu bod nhw hefyd am yfed gwin ar yr un feranda. Oni bai ei fod yn gartref preifat i rywun, efallai fyddai Cath wedi dweud mai'r lle hwn oedd y man gorau i gael eich llun wedi'i dynnu!

Felly gofynnom i Cath Ayres sôn mwy wrthym am y dref a'r ardal gyfagos. Mae Cath yn rhywun delfrydol i wneud hyn. Yn ogystal â bod yn un o ferched Sir Gâr, hi oedd yn chwarae rhan Lisa Connors, ffrind Faith, yn y gyfres.

Awgrymiadau Cath

Y Daith Gerdded Orau – Taith Gerdded Pen-blwydd Dylan Thomas.

Y peth mae'n rhaid i ymwelwyr ei wneud – Ymweld â Chartref Dylan Thomas.

Y Lle Delfrydol i dynnu llun – Golygfa o Gastell Talacharn o'r maes parcio. Yn ddelfrydol wrth iddi wawrio.

Y Trysor Cudd – Bedd Dylan Thomas

Ei Ffefryn Personol – Mae'n rhaid dweud y Browns Hotel.

Y Lle i gael Lluniaeth – Rhowch gynnig ar sawl tafarn, mae digon o ddewis.

Talacharn

Pethau i’w gwneud