English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Cynnyrch Lleol y Gorllewin

Ewch tua'r gorllewin yn Sir Gâr i gael profiadau o'r fferm i'r fforc cynaliadwy sy'n cael eu hyrwyddo gan arwyr bwyd lleol. Coginiwch wledd o fwyd môr ffres ar y traeth, bwyta mewn tŷ stêc sydd â'i fuches bedigri ei hun, cwrdd â gwneuthurwyr caws teuluol sy'n cynhyrchu cynnyrch byd-enwog, ac yfed gwinoedd Cymreig o winllannoedd annibynnol.

Rhaid ymweld â thref fechan Talacharn, sy'n enwog am y bardd mawr Dylan Thomas, ac mae Gwesty’r Brown's yn fan delfrydol i aros.

 

“Helo! Kacie ydw i a fi sy'n ysgrifennu'r blog bwyd a theithio, The Rare Welsh Bit. Rwy'n dod o Gymru ac rwy'n wirioneddol falch o'r sîn fwyd a diod ffyniannus sydd gyda ni yma gyda chymaint o gynhyrchwyr a bwytai annibynnol. Rwy'n falch iawn o gael gwahoddiad i droedio i berfeddion Sir Gâr a mynd ar daith i ddarganfod llefydd anhygoel i'w hargymell fel un o Lwybrau Cynnyrch Lleol 100% Sir Gâr.

 

 

 

EGWYL GOFFI

Dechreuwch eich diwrnod gyda phaned o de neu goffi yn Mols Bistro yn Sanclêr, a rhaid yw blasu'r cacennau cartref.

Neu, os am ddiod i'ch cynnal ar eich taith, ewch i Fferm Fforest Milk ger Hendy-gwyn, lle mae llaeth cyflawn ffres wedi'i basteureiddio ac ysgytlaethau mewn poteli gwydr yn cael eu gwerthu'n gyfleus, yn syth o beiriant.

HWYL FWYD

Os ydych chi'n caru caws, byddwn i'n argymell yn gryf mynd i Caws Cenarth ym Moncath ger Castellnewydd Emlyn, i ddysgu mwy am gawsiau organig byd-enwog Perl Wen a Pherl Las, yn ogystal â'r mathau gwych eraill o gaws a gynhyrchir yma. Ar ben hynny, os arhoswch chi yn y fflat sydd ar y fferm laeth hon, fe gewch daith dywys lawn a detholiad o gawsiau i'ch croesawu.

Os taw bwyd môr ffres sy'n mynd â'ch bryd, gallwch ymuno â Craig Evans ar gyfer fforio arfordirol ar arfordir Sir Gâr. Byddwch yn dysgu sut i adnabod a phigo amrywiaeth o lysiau môr a bwyd môr, cyn coginio pryd bwyd môr newydd ei fforio ar y traeth.

Yn y cyfamser, bydd y rhai sy'n hoff o winoedd wrth eu bodd yn blasu gwinoedd Sir Gâr mewn gwinllannoedd lleol. Ger Hendy-gwyn, mae Gwinllan Jabajak yn cynnig profiad blasu gwin a drws seler, yn ogystal â bwyty gydag ystafelloedd sy’n cael eu hargymell yn fawr.

Ar gyfer gwin organig, ewch i Winllan Hebron, sydd hefyd ger Hendy-gwyn, lle cynhyrchir tri math o win, yn cynnwys gwin gwyn pefriog. Ceir yma hefyd ysgubor laeth sydd wedi'i haddasu'n lle aros hunanarlwyo.

 

GRYM Y FARCHNAD

Ar gyfer bwyd a diod lleol i'w mwynhau gartref, i'w rhoi mewn hamper picnic, neu i loddesta arnynt adeg gwyliau hunanarlwyo, ewch i Farchnad Wledig Castellnewydd Emlyn, a gynhelir bob dydd Gwener o 9.30am tan 12.30pm yng Nghlwb Pêl-droed Castellnewydd Emlyn.

Hefyd, ar ail ddydd Sadwrn y mis, cynhelir Marchnad Cynnyrch Hendy-gwyn yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn, ac mae yno bopeth o gacennau a mêl, i sebon a chrefftau wedi'u gwneud â llaw.

LLECYN I GAEL CINIO

Yn llythrennol, gallwch larpio i lawr brydau maethlon o fwyd fegan a llysieuol, paninis a mwy yng Nghaffi Riverside yng Nghastellnewydd Emlyn, lle cewch olygfa wych o Afon Teifi o'ch bwrdd.

Yn Nhalacharn, peidiwch â cholli cyfle i ymweld â The Ferryman Delicatessen. Roeddem wrth ein bodd â'r ham Serrano wedi'i dostio, caws Manchego a bara fflat cwins, ac roedd y stiw chorizo yn anhygoel.

Ac os ydych chi'n ysu am 'sgod a 'sglods ar lan y môr ewch i Bentywyn lle mae saith milltir o dywod euraidd, a digon o fwytai a llefydd 'sgod a 'sglods nid nepell o'r traeth. Mae gan Caffi'r Point brydau fforddiadwy i'w bwyta wrth fynd, a golygfeydd panoramig o Draeth Pentywyn.

DANTEITHION

Nôl yng ngogledd y sir, wrth raeadrau Cenarth, mae Tŷ Te Cenarth yn ystafell de brydferth sy'n cynnig te prynhawn traddodiadol. Cymrwch lymaid o de o gwpan tsieina wrth fwynhau bara brith wedi'i bobi'n ffres, pice ar y maen, a sgons gyda jam a hufen ffres arnynt.

Yn Sanclêr fe aiff y bobl leol i'r County Stores i gael eu bara ffres a'u pice ar y maen.

Mynnwch flas ar hufen iâ arbennig yn The Cowshed Parlour and Bistro ar Fferm Penback yn Ciffig, tu allan i Hendy-gwyn. Yma maent yn gwerthu mwy nag 20 blas o'u hufen iâ Cowpots eu hunain, a gynhyrchir gan ddefnyddio llaeth eu gwartheg Jersi pedigri.

DELIS DELFRYDOL

Mae cymaint o ddelis annibynnol o safon yn Sir Gâr, yn gwerthu bron popeth y gallech obeithio ei fwyta a'i yfed yn ystod eich arhosiad.

Nid yn unig mae The Ferryman Delicatessen yn Nhalacharn yn gweini cinio arbennig, ond mae hefyd yn gwerthu arlwy helaeth o gynnyrch lleol wedi'i wneud yn annibynnol, fel Little Croft Chocolate yn Hendy-gwyn.

Yn y cyfamser, nôl yn Nghastellnewydd Emlyn mae deli organig gwych, The Carrot Cruncher, sy'n gwerthu pasteiod lleol Hey Vegan, surdoes a phastai organig wedi'u pobi'n ffres, yn ogystal â dewis eang o gig a physgod lleol.

 

 

PETHAU I FYND Â NHW ADREF

O ran argymhellion am bethau i fynd â nhw adref gyda chi, byddai potel o win o Winllan Hebron yn bendant ar y rhestr. Fe wnes i sbwylio fy hun a phrynu potel o Triskele White, a gynhyrchwyd gan ddefnyddio eu grawnwin Solaris blasus!

Yn yr un modd, byddai ymweld â Caws Cenarth heb brynu digonedd o gaws yn bechod. Prynon ni bum caws gwahanol i greu bwrdd caws Cymreig blasus dros ben i'w fwynhau a'i werthfawrogi ar ein trip i Sir Gâr.

Fe wnes i hefyd stopio yng Nghigyddion Deri Page yn Sanclêr. Roeddwn i eisoes wedi clywed cymaint am eu pasteiod cartref a chefais i ddim fy siomi. Credwch chi fi, rhaid yw blasu'r pastai cig oen a mintys. Hefyd yn Sanclêr i'r rhai sy'n hoffi eu Cig Eidion Cymreig wedi'i halltu, Eynon's of St. Clears yw cartref y Siambr Halen Himalaiaidd fwyaf yng Nghymru.

CINIAWA

Rhai o'r llefydd y mae'n werth chweil gwledda ynddynt yw Dexter's Steakhouse and Grill yng Ngwesty'r Brown's yn Nhalacharn, sy'n gweini cig eidion wedi'i halltu am 40 diwrnod o’u buches bedigri Dexter eu hunain yn Llwyn Farm, Llan-gain. Hefyd yn Nhalacharn, mae Poon's Street Food yn fwyty a siop gludfwyd Thai arbennig o dda.

Yng Nghastellnewydd Emlyn, mae'r bwyty thapas poblogaidd Petit Biarritz (yng Ngwesty'r Emlyn) yn gweini prydau tapas gan ddefnyddio cynhwysion lleol fel patatas bravas a croquetas ham a chaws, ochr yn ochr â dewisiadau mwy arloesol fel cyw iâr Coreaidd wedi'i ffrio a tagine peli cig Morocaidd o gig oen Cymru.

Aros Dros Nos

I sicrhau bod eich breuddwydion yn felys a bod cynnyrch lleol Sir Gâr ar garreg eich drws rwy'n awgrymu eich bod treulio ambell noson o leiaf yn un o'r llefydd yma:
Mae gan Cowpots Camping pizzeria ar y safle a pharlwr hufen iâ; mae gan Hebron a Jabajak lety sy'n edrych dros eu gwinllannoedd; mae gan wneuthurwyr Caws Cenarth fflat hunanarlwyo uwchben y llaethdy a Brown's yw gwesty chwedlonol Talacharn sydd hefyd yn gartref i Dexters.

Hefyd i gael rhywbeth arbennig iawn, ewch i'r fferm eco sensitif yng Nghanolfan Ceridwen gyda 40 erw o dir organig a llety unigryw lle mae gwesteion yn gallu mwynhau pizza wedi'i grasu ar goed tân a byrgyrs ar y penwythnos.

Inspired to stay

Visit our staying pages